Tuesday, May 26, 2009

Iaith i'w gwahardd?

Beth am hyn am enghraifft o safonau dwbl?
Mae Golwg yn cynnwys bob wythnos yn ei thudalennau cefn enghreifftiau o iaith wael a salw, i dynnu sylw at ddiffygion cyfieithu ac ati. Da iawn hynny. Ond beth am safon yr iaith sy'n cael ei chynhyrchu'n uniongyrchol gan y cylchgrawn ei hun?
Sonia' i ddim am y tro am iaith y colofnau a'r erthyglau yng nghanol Golwg; digon imi heddiw fydd cwestiynu doethineb geirio'r pennawd bras a gafwyd ar y tudalen blaen ar Ebrill 2 eleni: 
Codi'r ban ar Monty Python
Codi beth? Ai rhyw gyfeiriad amwys sydd yma at gyfansoddi barddoniaeth drom ym mesur y cyhydedd naw ban? Neu a fu chwilio hir am y digrifwyr enwog ym mhedwar ban byd cyn dod o hyd iddynt yn cysgu mewn cell tanddaearol ym Mannau Brycheiniog megis rhyw feibion darogan cyfryngol?
Neu ai mewnforio gair Saesneg yn ddi-feddwl a gafwyd fan hyn, gan anghofio fod gan y Gymraeg ei geirfa ei hun i ddisgrifio'r sefyllfa dan sylw?
Neu oedd Golwg jest yn bod yn cool, a minnau'n rhy past-it i ddeall? 

Saturday, January 24, 2009

Pa safonau iaith sydd i'w disgwyl gan y BBC?

Rhagair
Fel y soniais o'r blaen, pwrpas y blog yma yw codi ambell i sgwarnog sy'n llechu yn ffriddoedd prin yr iaith a siaredir ac a ysgrifennir heddiw, gan gasglu enghreifftiau o Gymraeg gwael ac o Gymraeg gwell.

Er fod gen i farn eithaf cryf ar nifer o'r pwyntiau gaiff eu codi - a byddaf yn ceisio bod yn bryfoclyd o bryd i'w gilydd - nid beirniadu hallt a dogmatig yw'r nod, eithr annog trafodaeth. Bydd gwallau yn fy nadleuon innau cystal ag yn fy iaith, mae'n siwr - diolch ichi bob tro am fy nghywiro'n gyfeillgar!

At ddeunydd heddiw:
Yr iaith ysgrifenedig sydd o'r diddordeb mwyaf yma: tafodiaith yw tafodiaith, ac er dibenion y blog yma, ystyr "tafodiaith" fydd "iaith y dafod": hynny yw yr iaith a siaredir yn feunyddiol gan y Cymry a'u cyfeillion amlieithog. Eto, pa berthynas ddylai fod rhwng tafodiaith ac iaith safonol, ysgrifenedig?

Rwy'n tueddu i gytuno â'r hyn a ddywedodd William Safire yn y New York Times yn ddiweddar wrth iddo drafod safonau yn y Saesneg [fi piau'r pwyslais a'r cyfieithiad]:
"Idioms is Idioms". Mae hi'n daith fer iawn o'r meddwl i'r geg, o gymharu â'r hen lwybr o'r ymennydd-i'r llygaid-i'r bysedd, ond nid yr un peth yw iaith gyflym ac iaith goeth. Yn ddiweddar gwelwyd llacder naturiol yr iaith lafar yn llifo fwyfwy i'r iaith brintiedig. Mae defnydd llafar i'w weld ym mhobman ar y we, ond nid hwnnw sydd gennym mewn golwg wrth feddwl am "print", am mai trawsgrifiad o'r iaith lafar yw hwnnw yn y bôn, dull o ysgrifennu sy'n talu ychydig iawn o sylw i'r rheolau sy'n nodi manylder, eglurder a gwreiddioldeb iaith a ysgrifennwyd ac a olygwyd yn ofalus. Nid yw'r hyn sydd yn ei gynefin ar y dafod o reidrwydd i'w drawsblannu i'r tudalen. 
Yn y blog yma nid yw'n fwriad gen i osgoi enghreifftiau o'r we o gwbl. Wedi'r cyfan, oddi ar y we y bydd llawer ohonom yn cael dogn go helaeth o'n deunydd darllen erbyn hyn. Mae amrywiaeth o ddulliau ysgrifennu (neu amrywiaith o hyn allan) yn beth da i iaith. Pwynt da sy'n ganolog i ddadl Safire yw bod rhaid wrth olygu gofalus (sef gwirio'r iaith ysgrifenedig), ac i raddau felly mae'r cwestiwn yn troi'n un o safon gwirioYr hyn sy'n niweidiol yw'r duedd i "[l]acder naturiol yr iaith lafar" lifo'n ormodol i'r iaith ysgrifenedig gan ddisodli a boddi coethder, eglurder ac - ie - brydferthwch yr iaith "safonol ysgrifenedig". Hynny yw, peidio â gwirio'n ddigonol.

Cwestiwn arall yw safon yr iaith lafar ei hun.

O dan y chwyddwydr i ddechrau dyma ychydig enghreifftiau diweddar o 'amrywiaith' a godwyd yn ystod yr wythnos diwethaf o dudalennau BBC Cymru'r Byd, corff y byddid yn disgwyl fod iddo olygydd, neu fod yno safonau a rheolau i'w dilyn, a chywiro a thrafod yn digwydd (gweler erthygl berthnasol arall ar y New York Times fan hyn). Ar y cyfan, mae Cymru'r Byd yn gwneud cyfraniad ardderchog i lythrennedd yn Gymraeg, ond ar gyfer ein dibenion heddiw mae 'na le i ddiolch hefyd am destun trafod.

Eto, fi piau pob pwyslais.

1. Pennawd i stori o 8/1/2008. 
Cyfarfod cynta pentre chwaraeon
Mae'n dangos dwy enghraifft o -f ar goll o ddiwedd gair. Dyma orgraff sydd efallai'n iawn i arddull sgyrsiol, ond a yw'n gymwys i benawdau newyddion? Wedi'r cyfan, on'd yw'n rheol sefydledig nad yw -f ar ddiwedd gair yn cael ei hynganu mewn cyweiriau llai ffurfiol, ar wahan i ambell i eithriad megis braf? Os yw'r rheol mor syml, yna beth yw'r pwynt ceisio'i newid? Mae hyn yn debyg i geisio ail-wampio sillafu'r Saesneg fel bod geiriau megis bough a cough tough yn cael eu hysgrifennu'n bow (fel cow!), coff, tuff. Ac mae angen yr -f arnom ni er mwyn medru ynganu'n gywir wrth ddarllen yn ffurfiol, neu yn araf. 

Yng nghorff y stori ceir gair a drinir ddwywaith fel enw gwrywaidd ac unwaith fel un benywaidd, yn yr un frawddeg (camdreiglad, felly, ond un hawdd ei ddal wrth wirio):
i wneud yn siŵr fod y tystysgrif berthnasol yn cael ei roi.
Ac yn gapsiwn i'r llun, cafwyd y dryswch amserol yma ("does dim... ers..." sy'n gywir, yn ôl patrwm "rydw i'n gwneud hyn a hyn ers..."):
Doedd dim trac yn y ddinas ers chwalu Stadiwm y Morfa
2. Pennawd i stori o 12.01.09 sy'n gweld eisiau -f eto: 
Dychwelyd adre wedi damwain car
Yng nghorff yr un stori ceir camddefnydd o fath arall o'r gair adref: er iddo gael ei sillafu'n gywir y tro hwn, y gair gartref fyddai'n gywir yma. Hefyd gwelir cymysgu cyweiriau yn ofnadwy mewn 'dyfyniad':
dywedodd Mrs Humphreys ei bod yn "gyffrous" ac yn teimlo "rhyddhad" o'i gael adref gyda hi.
[...]
"fe geisiais fynd â fe ond nid oeddem yn gallu mynd â'r gadair olwyn i fyny'r rhiw oherwydd ei bodyn bwrw glaw ac yn fwdlyd iawn."
Mae eisiau bod yn ofalus iawn gyda phethau megis y gwahaniaeth rhwng (y) cartref, gartref, adref. Effaith y Saesneg (nad oes iddi ond yr un gair, 'home') yw hyn, a dyma'r rheswm am nifer o'n problemau heddiw. Cadw'r Gymraeg yn Gymraeg yw'n gorchwyl, nid ei throi'n iaith pidgin. Pe bai gyda ni'r Cymry fwy o grap ar ieithoedd eraill, efallai y byddai pethau'n well- mae'r Almaeneg, er enghraifft, yn gwahaniaethu yn yr un ffordd yn union: (das) Haus, zu Hause, nach Hause.

3. Cyfieithu gwael, mae'n siwr, sy'n rhannol gyfrifol am yr enghraifft nesaf o 12.1.09. Mae'r gwallau gwaethaf i'w gweld o fewn dyfynnodau - ai fyl'na ôdd y boi'n siarad? Mae hynny'n annhebyg gen i.

Cafodd Dexter ei eni yng nghartref y cwpl ym Mro Morgannwg.

Dydd Llun daeth cadarnhad o'r enw.

"Mewn traddodiad a theulu'r Henson, mae Dexter yn cael yr enw canol Lloyd," meddai llefarydd ar ran Charlotte.

4. Ac yn olaf am y tro, enghraifft arbennig iawn oddi ar wefan BBC Cymru'r Byd ar 11.1.09. Eto, fi piau'r pwyslais.

Ar ôl gweithio tuag at e, does dim rhaid golchi poteli, dim rhaid prynu fformiwla, berwi tegell, dim ffwdan dim ond bwydo.

[...]

Roedd profiad Olivia yn hawdd ond roedd problemau gyda Benjamin ond wedi gweithio drwyddo a dyma oedden ni moyn wneud.

"Doedd o ddim yn hawdd gyda Benjamin ond wedi dyfalbarhau a dyw Benjamin ddim yn hoffi'r botel.

"Trio ac os nad ych chi'n hapus a ddim yn gweithio ar ôl dau fis yna chi'n gwybod, chi wedi trio'r gorau i'ch babi."

[...]

 "Does dim digon o help i'r mamau na'r tadau ac mae angen y cyngor iawn gyntaf.

"Siarad gyda'r mamau sydd wedi ac wedi ceisio bron fwydro.

"Mae'n broblem hyder dwi'n credu fod llai o famau ifanc yn bwydo o'r fron ond gyda Charlotte Church yn cefnogi dwi'n gobeithio yn arwain y ffordd.

"Ond i'r mamau i gyd dim ond rhoi cyfle ac mae 'na ddigon o gymorth ar gael ac os nad yw'n gweithio, dim ots ond i chi wedi rhoi siawns."

Mae'n debyg imi mai'r esgus fan hyn unwaith eto fyddai mai "ceisio efelychu'r iaith lafar" oedd y sawl a luniodd y 'trawsgrifiad' yma. Eto, mae'n debycach gen i taw cam-gyfieithu o ddogfen Saesneg yw'r rheswm am yr iaith yma, (yn anffodus, methais â ffeindio'r stori ar y wefan Saesneg). Ond beth bynnag yw'r ateb, a a ddylai iaith fel hyn erioed fod wedi gweld golau dydd, yn enwedig ar wefan o safon megis ein prif ffynhonnell newyddion? Enghraifft eithriadol yw hon, mi wn, ond efallai ei bod hi'n ddefnyddiol oherwydd hynny.

Ai tafodiaith sydd yma neu iaith anghywir? Mae'r ateb, mewn enghreifftiau megis "tuag at e", neu "ond ichi wedi rhoi siawns" yn hollol glir imi, ond wedyn cyfyd cwestiynau eraill: beth yw diben awgrymu fod "tafodiaith" yn iawn ar y tudalen os yw hynny'n awgrymu i rai fod ganddynt yr hawl i ysgrifennu beth bynnag sy'n dod i'w pennau? 

Na. Mae angen rheolau. Ac mae angen golygu. 

Thursday, January 8, 2009

Y Post Cyntaf

Yn dilyn trafodaeth ddifyr dros y diwrnodau diwethaf fe benderfynais ddilyn awgrym i greu blog newydd er mwyn trafod iaith, gramadeg, cystrawen, orgraff a phob math o bethau da. 

Y nod yw crynhoi deunydd a sbarduno trafodaeth ynghylch: 
  • pa fath o Gymraeg ddylai gael ei hystyried yn "safonol"? 
  • beth yw ystyr "safon" yn y cyd-destun hwn?
  • oes gwahaniaeth rhwng iaith "tafodiaethol" ac iaith "cywir"?
  • a ddylid arfer gwahanol fathau o iaith mewn gwahanol gyd-destunau?
  • pa "wallau" ieithyddol sy'n eich gwylltio chi?
  • pa enghreifftiau o Gymraeg annealladwy sydd wedi'ch corddi?
  • pa bedantrwydd ieithyddol sy'n mynd yn rhy bell?
  • oes 'rheolau' gramadeg y dylid eu symleiddio / newid / dileu?
  • sut mae sefyllfa'r Gymraeg yn cymharu ag eiddo ieithoedd eraill?
  • ydy Cymraeg crap yn ddigon da?
Does dim eisiau bod yn hollol negyddol, 'chwaith, felly hefyd gofynnwn y cwestiwn:
  • ymhle mae cael hyd i'r Gymraeg gorau yn y cyfryngau ac mewn cyhoeddiadau swyddogol?
Hoffwn pe bai modd gweld yn y Gymraeg y math o drafodaeth ag a welir yn Saesneg ynghylch cywirdeb iaith. Mae pawb ohonom yn gwybod am lyfrau megis Eats, Shoots and Leaves, neu Lost for Words a mudiadau diddorol ac effeithiol megis y Plain English Campaign. Mae'n debyg hefyd y bydd y rhan fwyaf ohonom yn ysgrifennu (neu yn ceisio ysgrifennu) Saesneg 'cywir'.  Mae'r sefyllfa yn achos y Gymraeg yn ymddangos yn eithaf gwahanol.

Wrth gwrs, mae digonedd o enghreifftiau o Saesneg da yn ein taro ni bob dydd yn y cyfryngau. O'r Sun i'r Times ac o Kerrang! i'r Economist, does dim anghytuno ynghylch ffurfiau cywir berfau, na'r ffordd gywir i sillafu: mae seiliau gramadegol ac orgraffyddol yr iaith Saesneg yn gadarn-gywir. Oni welir sefyllfa debyg wrth syllu ar ieithoedd ledled y byd?

Ond nid felly y mae hi yn y cyfryngau Cymraeg, a hyd yn oed 'awdurdodau' megis BBC Cymru'r Byd yn amrywio ei heithwedd o frawddeg i frawddeg.1 Ac yn sicr nid felly y mae hi yn y byd mawr ar y stryd lle y gall yr enwog "llid y bledren" neu "nid wyf yn y swyddfa ar hyn o bryd" gyfrif fel cyfieithiadau derbyniol ar gyfer arwyddion ffordd (gan hybu proffeil yr iaith yn Tseina, o bosibl!). Ewch at Scymraeg am ragor o enghreifftiau tebyg. 

Cafwyd awgrym yn y drafodaeth gychwynnol bod orgraff simsan y Gymraeg yn rhwystr i ddysgwyr, hefyd. Dyma gwestiwn da. Gan ddilyn pa ganllawiau y dylai oedolion (a phlant) ddysgu i ysgrifennu? - rhai Gareth King?rhai Peter Wynn Thomas? rhai "tiwtoriaid" y BBC? Mae arddull wahanol i bob un. Oes mwy nac un "safon"? 

A beth am y ddadl bod gwahaniaeth rhwng yr iaith "lenyddol" a'r tafodieithoedd - ydy rheolau gramadeg yn diflannu, wrth ddilyn "teithi'r iaith lafar naturiol"?

Eto hefyd efallai bod lle i ddadlau bod Cymraeg crap yn llawer, llawer iawn gwell na Saesneg slic (os taw'r dewis yw rhwng Cymraeg crap a dim Cymrag o gwbl). Ydy rhai pobl jest yn cwyno gormod? Wedi'r cyfan, nid pawb chwaith sy'n defnyddio'r Saesneg yn "gywir" bob tro, ac mae'r iaith yna'n ddigon iach!

Diolch yn fawr i chi am awgrymiadau, syniadau, dolenni, etc. (ac ie - am gywiro unrhyw wallau iaith!)

1 Ceir un enghraifft sydyn fan hyn, yn ail hanner yr adran "Dim yn Cysgu", lle y ceir anhrefn berfol llwyr. Cymharer hefyd yr iaith "ansafonol" braidd a geir gan "diwtoriaid" iaith y BBC (dolen uchod).