Rhyfeddais lawer paham yr oedd pobl yr ardal yn siarad am “Gymraeg cerryg calch,” neu, beth bynnag, y rhai hynny o’r ardalwyr oedd wedi treulio peth amser “yn y gweithiau.” Os byddai rhywun yn siarad Cymraeg gwael, trwsgl, “troednoeth” (chwedl Syr John Rhys) - yn “mixio Cymraeg a Saesneg” ys dywedai Ceiriog - dywedid ei fod yn siarad “Cymraeg cerryg calch.” Yr oedd y dywediad yn ddirgelwch mawr i mi pan yn grwtyn, a synnwn paham a pha fodd yr oedd cerryg calch yn elyniaethus i burdeb yr hen iaith. Flynyddoedd lawer wedi ymadael â chartref, cefais oleuni ar y mater. Mae’n debyg mai Saeson o Wlad-yr-Haf a Dyfnaint oedd y cyntaf i weithio calch ar lannau’r môr yn.y Deheudir, yn Aberthaw ger y Barri, yng ngwlad Gŵyr, yn Lacharn, a lleoedd ereill. Dysgent ddigon o Gymraeg i’w galluogi i ymgyfathrachu â brodorion y wlad, ond pidgin Welsh oedd eu Cymraeg, a daeth “Cymraeg cerryg calch” yn ddiarhebol drwy’r Deheubarth.