Effaith y Saesneg sydd, mae'n siwr, yn esbonio gwall sydd wedi bod yn britho'r cyfryngau yn ddiweddar. Dyma dri enghraifft:
"S4C am ddarlledu Seren Bethlehem gyda chefnogaeth teulu" (Golwg, prif dudalen celfyddydau, 29.12.09)"Swyddfa Dywydd yn cyhoeddi rhybudd am eira trwm a ffyrdd rhewllyd mewn nifer o ardaloedd ddydd Mawrth." (BBC Cymru'r Byd, prif-dudalen newyddion, 4.1.09)"Llundain 2012: Urdd yn gwneud ei farc" (BBC C'rB, 26.3.10)
S4C am ddarlledu Seren Bethlehem gyda chefnogaeth y teulu.Y Swyddfa Dywydd yn cyhoeddi rhybudd am eira trwm a ffyrdd rhewllyd mewn nifer o ardaloedd ddydd Mawrth.Llundain 2012: Yr Urdd yn gwneud ei farc.
Yn y stori ei hun am yr eira, mae'r fannod yn ôl yn ei lle: "Ac mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd o eira ar gyfer siroedd Conwy, Dinbych, Ceredigion, Penfro, Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam."
Dim ond un llythyren sydd yn y gair "y" - pe bai deirgwaith y maint hwnnw, fel "the", efallai y byddai mwy o reswm dros geisio ei anghofio!
Neis gweld dy bost newydd am y tro cyntaf ers amser. Y fannod sy'n rhoi penbleth i mi a dweud y gwir: y siop lyfrau, swyddfa'r post, y maes awyr, y Gymdeithas Gymraeg neu "Cymdeithas y Gymraeg"?
ReplyDeleteCroeso no^l, Emma! Nid yw'r post diweddaraf ymhlith y mwyaf diddorol o'r gwallau iaith sydd o gwmpas y dyddiau hyn, efallai, ond mae'n dda ei fod wedi sbarduno sylwad gennych.
ReplyDeleteTybed beth yn union yw'ch penbleth chi...
Wrth gwrs, mae'n ddiddorol fod dau derm Cymraeg ar gyfer "The Post Office", sef 'Swyddfa'r Post' ac 'Y Swyddfa Bost'. Un o'r rhain (y cyntaf) yw enw'r cwmni, a'r llall yw enw'r siop fach yn eich pentref eich hun. Yn Saesneg gellid cyfieithu'r ddau (yn llythrennol, er mwyn ymarfer gramadegol yn unig) fel
i) The Post Office = The Office of the Post a
ii) The Post Office = The Postal Office.
Yn (i) mae'r gair 'post' yn enwol, ac yn (ii) mae'n ansoddeiriol.
Mae'n ddigon posibl nad yw hyn yn rhoi'r ateb yr oeddech yn ei chwilio! Ta beth, am y tro, beth am y lleill? Beth sy'n achosi'ch penbleth yma, tybed?
Y maes awyr - the airport (= the air field [ansoddeiriol])
Y Gymdeithas Gymraeg - The Welsh(-language) Society [ansoddeiriol]
Cymdeithas y Gymraeg - The Society of/for the Welsh Language [enwol]
Rhowch ragor o fanylion, a chawn drafod hyn ymhellach!
Y peth sy'n rhoi penbleth i mi ydy lle dylai'r fannod fod pan fod yna ddau enw. Mae "cath y ferch" yn amlwg ond beth am "the farm house" er enghraifft?
ReplyDeletey tŷ fferm
neu
tŷ'r fferm
Ond ar ôl darllen dy esboniad uchod, dw i'n meddwl fy mod i'n deall.
Ie - "Y ffermdy" neu "Y ty^ fferm" [ansoddeiriol]
ReplyDelete"Ty^'r fferm" fyddai 'The house of the farm' [enwol].
Cofiwch - nid 'the farm's house' yw 'the farmhouse' (neu 'the farm house' o bosibl). Mae'r gair 'farm' / 'fferm' yn ansoddeiriol, megis 'the blue house' neu - enghraifft da, rwy'n credu - 'the bread shop':
y ty^ glas
y siop fara
[yn yr ail enghraifft yma gwelir treiglad meddal, sy'n profi'r ffaith taw ansoddair sydd yma - T.M. ar o^l enw benywaiddd unigol]
Mae gwahaniaeth amlwg rhwng 'y siop fara' a 'siop y bara', a'r un yw'r rheol yn achos 'y ty^ ffarm' vs 'ty^'r ffarm'.
Diolch i ti. Dw i'n deall. Pan a' i'n ddryslyd eto, mi ddo' i'n ôl at y dudalen hon.
ReplyDeleteMae hefyd bannod o flaen Fflint -> Y Fflint. ;-)
ReplyDeleteDear (the) friend (o). I am making a donation campaign to help young boys who are admitted to the Recovery Center Drug where my son is internal também.Lá have young people who come only with the clothes, abandoned the family. They need everything: men's clothing, shoes, soap, towels, toothpaste, toothbrushes, a freezer, bedding, food. The recovery center survives on donations, more than 300 men internos.Eles deserve a chance. Who can help me can donate any amount at the Bank of Brazil Agency 1257-2 32882-0 Account
ReplyDelete