Thursday, January 8, 2009

Y Post Cyntaf

Yn dilyn trafodaeth ddifyr dros y diwrnodau diwethaf fe benderfynais ddilyn awgrym i greu blog newydd er mwyn trafod iaith, gramadeg, cystrawen, orgraff a phob math o bethau da. 

Y nod yw crynhoi deunydd a sbarduno trafodaeth ynghylch: 
  • pa fath o Gymraeg ddylai gael ei hystyried yn "safonol"? 
  • beth yw ystyr "safon" yn y cyd-destun hwn?
  • oes gwahaniaeth rhwng iaith "tafodiaethol" ac iaith "cywir"?
  • a ddylid arfer gwahanol fathau o iaith mewn gwahanol gyd-destunau?
  • pa "wallau" ieithyddol sy'n eich gwylltio chi?
  • pa enghreifftiau o Gymraeg annealladwy sydd wedi'ch corddi?
  • pa bedantrwydd ieithyddol sy'n mynd yn rhy bell?
  • oes 'rheolau' gramadeg y dylid eu symleiddio / newid / dileu?
  • sut mae sefyllfa'r Gymraeg yn cymharu ag eiddo ieithoedd eraill?
  • ydy Cymraeg crap yn ddigon da?
Does dim eisiau bod yn hollol negyddol, 'chwaith, felly hefyd gofynnwn y cwestiwn:
  • ymhle mae cael hyd i'r Gymraeg gorau yn y cyfryngau ac mewn cyhoeddiadau swyddogol?
Hoffwn pe bai modd gweld yn y Gymraeg y math o drafodaeth ag a welir yn Saesneg ynghylch cywirdeb iaith. Mae pawb ohonom yn gwybod am lyfrau megis Eats, Shoots and Leaves, neu Lost for Words a mudiadau diddorol ac effeithiol megis y Plain English Campaign. Mae'n debyg hefyd y bydd y rhan fwyaf ohonom yn ysgrifennu (neu yn ceisio ysgrifennu) Saesneg 'cywir'.  Mae'r sefyllfa yn achos y Gymraeg yn ymddangos yn eithaf gwahanol.

Wrth gwrs, mae digonedd o enghreifftiau o Saesneg da yn ein taro ni bob dydd yn y cyfryngau. O'r Sun i'r Times ac o Kerrang! i'r Economist, does dim anghytuno ynghylch ffurfiau cywir berfau, na'r ffordd gywir i sillafu: mae seiliau gramadegol ac orgraffyddol yr iaith Saesneg yn gadarn-gywir. Oni welir sefyllfa debyg wrth syllu ar ieithoedd ledled y byd?

Ond nid felly y mae hi yn y cyfryngau Cymraeg, a hyd yn oed 'awdurdodau' megis BBC Cymru'r Byd yn amrywio ei heithwedd o frawddeg i frawddeg.1 Ac yn sicr nid felly y mae hi yn y byd mawr ar y stryd lle y gall yr enwog "llid y bledren" neu "nid wyf yn y swyddfa ar hyn o bryd" gyfrif fel cyfieithiadau derbyniol ar gyfer arwyddion ffordd (gan hybu proffeil yr iaith yn Tseina, o bosibl!). Ewch at Scymraeg am ragor o enghreifftiau tebyg. 

Cafwyd awgrym yn y drafodaeth gychwynnol bod orgraff simsan y Gymraeg yn rhwystr i ddysgwyr, hefyd. Dyma gwestiwn da. Gan ddilyn pa ganllawiau y dylai oedolion (a phlant) ddysgu i ysgrifennu? - rhai Gareth King?rhai Peter Wynn Thomas? rhai "tiwtoriaid" y BBC? Mae arddull wahanol i bob un. Oes mwy nac un "safon"? 

A beth am y ddadl bod gwahaniaeth rhwng yr iaith "lenyddol" a'r tafodieithoedd - ydy rheolau gramadeg yn diflannu, wrth ddilyn "teithi'r iaith lafar naturiol"?

Eto hefyd efallai bod lle i ddadlau bod Cymraeg crap yn llawer, llawer iawn gwell na Saesneg slic (os taw'r dewis yw rhwng Cymraeg crap a dim Cymrag o gwbl). Ydy rhai pobl jest yn cwyno gormod? Wedi'r cyfan, nid pawb chwaith sy'n defnyddio'r Saesneg yn "gywir" bob tro, ac mae'r iaith yna'n ddigon iach!

Diolch yn fawr i chi am awgrymiadau, syniadau, dolenni, etc. (ac ie - am gywiro unrhyw wallau iaith!)

1 Ceir un enghraifft sydyn fan hyn, yn ail hanner yr adran "Dim yn Cysgu", lle y ceir anhrefn berfol llwyr. Cymharer hefyd yr iaith "ansafonol" braidd a geir gan "diwtoriaid" iaith y BBC (dolen uchod).

7 comments:

  1. Heb gael amser i ddilyn y dolenni uchod eto, ond yn edrych ymlaen i'w pori a darllen cofnodion pellach ar y blog yma - croeso i'r byd blogio Cymraeg hefyd, gyda llaw.

    ReplyDelete
  2. Syniad da iawn a dwi'n edrych ymlane i bori'r blog yma. Oes bwriad cael cyfrannwyr amrywiol i gyfrannu erthyglau - dwi'n meddwl byddai hynny'n ffordd dda o sbarduno trafodaeth.

    ReplyDelete
  3. Diolch am greu'r blog newydd yma. Dyma faes diddorol a phwysig iawn nad yw'n cael digon o sylw, yn fy marn i. Teimlaf eich bod yn gofyn nifer o gwestiynau dilys (os astrus!) am ddyfodol yr iaith ysgrifenedig ac edrychaf ymlaen at ddarllen rhagor a phwy a wyr, gyfrannu, efaillai, yn y dyfodol. Oliver

    ReplyDelete
  4. - oes gwahaniaeth rhwng iaith "tafodieithol" ac iaith "cywir"?


    Mae pob iaith lafar yn dafodiaith. Bydd unrhyw iaith safonol a argymhellir yn dafodiaith a fydd wedi ennill bri am resymau cymdeithasol a gwleidyddol. Yn y Gymraeg, mae gennym iaith lenyddol glasurol sydd wedi ei chreu at ddibenion llenyddiaeth aruchel; nid yw hi’n addas at bob math o ysgrifennu. Mae cael iaith safonol dderbyniol yn bwysig ond fydd hi ddim yn fwy ‘cywir’ na’r tafodieithoedd.

    ReplyDelete
  5. Diolch ichi am eich sylwadau. Dim ond ychydig iawn o ddolenni sydd yma hyd yn hyn, Rhys, fel y gwelwch (ychydig yn frysiog wnes i roi'r peth at ei gilydd ddoe, a dweud y gwir!) - bydd y dewis yn cynyddu yn ystod yr wythnosau a ddaw.

    Ie, Mr Gasyth, byddwn i'n ddigon hapus i weld pobl eraill yn cyfrannu erthyglau. Os oes chwant gyda rhywun, dylen nhw gysylltu â mi'n uniongyrchol (cyfeiriad yn y proffeil).

    Fy mwriad ar hyn o bryd yw postio erthygl bob wythnos a bydd rhaid imi roi ystyriaeth i drefn y trafodaethau (os bydd trefn). Rwy'n croesawu mewnbwn bob tro.

    Diolch hefyd, Cer i Grafu; cawn ddychwelyd at y pwnc hwnnw'n fanylach yn y man, heb os, ac mi symudaf eich sylwadau i'r drafodaeth benodol pan ddaw i fyny.

    ReplyDelete
  6. Mae dirfawr angen ymgyrch Cymraeg Glir (os taw dyna'r fersiwn Gymraeg o'r "Plain English Society"). Ar hyn o bryd, mae dogfennau'r llywodraeth yn or-lenyddol, heb son am fod yn llawn o ryw 'ieithwedd swyddogol' sydd ymhell iawn o'r Gymraeg a siaredir nau a ddeallir ar lawr gwlad.

    Nid 'bratiaith' sydd ei angen, ychwaith. Mae angen i ni, a'r academyddion, a'r bobl gyffredin, ganfod ffordd ganol, sef Cymraeg syml, heb yr holl nonsens di-ystyr sydd mewn dogfennau Saesneg. Falle wedyn, byddai mwy o bobl yn darllen / defnyddio ffurflenni ac ati yn Gymraeg.

    Un enghraifft: Cefais ddogfen gan yr ysbyty pan anwyd fy mhlentyn, gyda'r is-deitl "taking a positive attitude towards rearing children." Digon trwsgl yn y Saesneg, on yn y Gymraeg ceid "cymryd ymagweddiad cadarnhaol tuag at fagu plant". BFf? Beth fyddai o'i le gyda "Magu plant mewn ffordd gadarnhaol"?

    A weud y gwir, pedant. Os wyt ti o ddifri ynglyn ag ymgyrch o'r fath, mae'n siwr byddai digon o gymorth ar gael. Yn sicr byswn i'n fodlon dod yn rhan ohoni.

    ReplyDelete
  7. Hoffwn i ymateb i ambell beth gan Justin.

    Un o'r pethau sy'n gyffredin ymhlith cyfieithwyr y dyddiau hyn yw eu bod, yn dibynnu ar arddull a gwedd dogfen, yn cyfieithu mewn modd sy'n ddealladwy a syml ond eto'n gywir. Dydi'r iaith a geir mewn nifer o ffurflenni ac ati ddim yn or-gymhleth na'n ffansi, er bod canfyddiad mai dyma'r achos.

    Dydi hynny ddim yn wir bob tro, wrth gwrs, ond yn fy mhrofiad i dyma sut mae hi.

    Mae'r sefyllfa o ran dogfennau llywodraethol neu ddeddfau, mesurau a dogfennau cyfreithiol yn wahanol. Y gwir ydi caiff y rhain eu llunio yn Saesneg ac yna eu cyfieithu, a rhaid sicrhau bod y Gymraeg a gyfieithir yn cyfateb yn union i'r Saesneg fel nad oes unrhyw gymhlethdod na chamddealltwriaeth.

    Mae dogfennau o'r fath yn gymleth eu natur yn y lle cyntaf i rywun heb arbenigedd yn y maes dan sylw, ym mha iaith bynnag y'u hysgrifennir. Ond nes bod y Saesneg gwreiddiol yn cael ei llunio a'i geirio mewn modd syml, mwy dealladwy, nid oes unrhyw fodd i'w cyfieithu'n syml i'r Gymraeg heb golli'r ystyr mymryn - 'sdim angen im i ddweud mewn ambell gyd-destun gall hynny ymylu ar fod yn beryglus.

    ReplyDelete