Tuesday, May 26, 2009

Iaith i'w gwahardd?

Beth am hyn am enghraifft o safonau dwbl?
Mae Golwg yn cynnwys bob wythnos yn ei thudalennau cefn enghreifftiau o iaith wael a salw, i dynnu sylw at ddiffygion cyfieithu ac ati. Da iawn hynny. Ond beth am safon yr iaith sy'n cael ei chynhyrchu'n uniongyrchol gan y cylchgrawn ei hun?
Sonia' i ddim am y tro am iaith y colofnau a'r erthyglau yng nghanol Golwg; digon imi heddiw fydd cwestiynu doethineb geirio'r pennawd bras a gafwyd ar y tudalen blaen ar Ebrill 2 eleni: 
Codi'r ban ar Monty Python
Codi beth? Ai rhyw gyfeiriad amwys sydd yma at gyfansoddi barddoniaeth drom ym mesur y cyhydedd naw ban? Neu a fu chwilio hir am y digrifwyr enwog ym mhedwar ban byd cyn dod o hyd iddynt yn cysgu mewn cell tanddaearol ym Mannau Brycheiniog megis rhyw feibion darogan cyfryngol?
Neu ai mewnforio gair Saesneg yn ddi-feddwl a gafwyd fan hyn, gan anghofio fod gan y Gymraeg ei geirfa ei hun i ddisgrifio'r sefyllfa dan sylw?
Neu oedd Golwg jest yn bod yn cool, a minnau'n rhy past-it i ddeall? 

3 comments:

  1. This comment has been removed by the author.

    ReplyDelete
  2. rhyfedd. hyd y galla' i weld, smo nhw'n iwsio gair benthyg yma er mwyn rhyw effaith benodol (oni bai fod e'n ddyfyniad neu gyfeiriad sydd tu hwnt imi!) - nac achos mae'r geiriau cymraeg priodol mor brin fel na fyddai neb eu deall nhw.

    ReplyDelete
  3. Ac mae'r Gymraeg ar y wefan gynddrwg, os ydych chi'n gallu ei gweld!

    ReplyDelete