Saturday, January 24, 2009

Pa safonau iaith sydd i'w disgwyl gan y BBC?

Rhagair
Fel y soniais o'r blaen, pwrpas y blog yma yw codi ambell i sgwarnog sy'n llechu yn ffriddoedd prin yr iaith a siaredir ac a ysgrifennir heddiw, gan gasglu enghreifftiau o Gymraeg gwael ac o Gymraeg gwell.

Er fod gen i farn eithaf cryf ar nifer o'r pwyntiau gaiff eu codi - a byddaf yn ceisio bod yn bryfoclyd o bryd i'w gilydd - nid beirniadu hallt a dogmatig yw'r nod, eithr annog trafodaeth. Bydd gwallau yn fy nadleuon innau cystal ag yn fy iaith, mae'n siwr - diolch ichi bob tro am fy nghywiro'n gyfeillgar!

At ddeunydd heddiw:
Yr iaith ysgrifenedig sydd o'r diddordeb mwyaf yma: tafodiaith yw tafodiaith, ac er dibenion y blog yma, ystyr "tafodiaith" fydd "iaith y dafod": hynny yw yr iaith a siaredir yn feunyddiol gan y Cymry a'u cyfeillion amlieithog. Eto, pa berthynas ddylai fod rhwng tafodiaith ac iaith safonol, ysgrifenedig?

Rwy'n tueddu i gytuno â'r hyn a ddywedodd William Safire yn y New York Times yn ddiweddar wrth iddo drafod safonau yn y Saesneg [fi piau'r pwyslais a'r cyfieithiad]:
"Idioms is Idioms". Mae hi'n daith fer iawn o'r meddwl i'r geg, o gymharu â'r hen lwybr o'r ymennydd-i'r llygaid-i'r bysedd, ond nid yr un peth yw iaith gyflym ac iaith goeth. Yn ddiweddar gwelwyd llacder naturiol yr iaith lafar yn llifo fwyfwy i'r iaith brintiedig. Mae defnydd llafar i'w weld ym mhobman ar y we, ond nid hwnnw sydd gennym mewn golwg wrth feddwl am "print", am mai trawsgrifiad o'r iaith lafar yw hwnnw yn y bôn, dull o ysgrifennu sy'n talu ychydig iawn o sylw i'r rheolau sy'n nodi manylder, eglurder a gwreiddioldeb iaith a ysgrifennwyd ac a olygwyd yn ofalus. Nid yw'r hyn sydd yn ei gynefin ar y dafod o reidrwydd i'w drawsblannu i'r tudalen. 
Yn y blog yma nid yw'n fwriad gen i osgoi enghreifftiau o'r we o gwbl. Wedi'r cyfan, oddi ar y we y bydd llawer ohonom yn cael dogn go helaeth o'n deunydd darllen erbyn hyn. Mae amrywiaeth o ddulliau ysgrifennu (neu amrywiaith o hyn allan) yn beth da i iaith. Pwynt da sy'n ganolog i ddadl Safire yw bod rhaid wrth olygu gofalus (sef gwirio'r iaith ysgrifenedig), ac i raddau felly mae'r cwestiwn yn troi'n un o safon gwirioYr hyn sy'n niweidiol yw'r duedd i "[l]acder naturiol yr iaith lafar" lifo'n ormodol i'r iaith ysgrifenedig gan ddisodli a boddi coethder, eglurder ac - ie - brydferthwch yr iaith "safonol ysgrifenedig". Hynny yw, peidio â gwirio'n ddigonol.

Cwestiwn arall yw safon yr iaith lafar ei hun.

O dan y chwyddwydr i ddechrau dyma ychydig enghreifftiau diweddar o 'amrywiaith' a godwyd yn ystod yr wythnos diwethaf o dudalennau BBC Cymru'r Byd, corff y byddid yn disgwyl fod iddo olygydd, neu fod yno safonau a rheolau i'w dilyn, a chywiro a thrafod yn digwydd (gweler erthygl berthnasol arall ar y New York Times fan hyn). Ar y cyfan, mae Cymru'r Byd yn gwneud cyfraniad ardderchog i lythrennedd yn Gymraeg, ond ar gyfer ein dibenion heddiw mae 'na le i ddiolch hefyd am destun trafod.

Eto, fi piau pob pwyslais.

1. Pennawd i stori o 8/1/2008. 
Cyfarfod cynta pentre chwaraeon
Mae'n dangos dwy enghraifft o -f ar goll o ddiwedd gair. Dyma orgraff sydd efallai'n iawn i arddull sgyrsiol, ond a yw'n gymwys i benawdau newyddion? Wedi'r cyfan, on'd yw'n rheol sefydledig nad yw -f ar ddiwedd gair yn cael ei hynganu mewn cyweiriau llai ffurfiol, ar wahan i ambell i eithriad megis braf? Os yw'r rheol mor syml, yna beth yw'r pwynt ceisio'i newid? Mae hyn yn debyg i geisio ail-wampio sillafu'r Saesneg fel bod geiriau megis bough a cough tough yn cael eu hysgrifennu'n bow (fel cow!), coff, tuff. Ac mae angen yr -f arnom ni er mwyn medru ynganu'n gywir wrth ddarllen yn ffurfiol, neu yn araf. 

Yng nghorff y stori ceir gair a drinir ddwywaith fel enw gwrywaidd ac unwaith fel un benywaidd, yn yr un frawddeg (camdreiglad, felly, ond un hawdd ei ddal wrth wirio):
i wneud yn siŵr fod y tystysgrif berthnasol yn cael ei roi.
Ac yn gapsiwn i'r llun, cafwyd y dryswch amserol yma ("does dim... ers..." sy'n gywir, yn ôl patrwm "rydw i'n gwneud hyn a hyn ers..."):
Doedd dim trac yn y ddinas ers chwalu Stadiwm y Morfa
2. Pennawd i stori o 12.01.09 sy'n gweld eisiau -f eto: 
Dychwelyd adre wedi damwain car
Yng nghorff yr un stori ceir camddefnydd o fath arall o'r gair adref: er iddo gael ei sillafu'n gywir y tro hwn, y gair gartref fyddai'n gywir yma. Hefyd gwelir cymysgu cyweiriau yn ofnadwy mewn 'dyfyniad':
dywedodd Mrs Humphreys ei bod yn "gyffrous" ac yn teimlo "rhyddhad" o'i gael adref gyda hi.
[...]
"fe geisiais fynd â fe ond nid oeddem yn gallu mynd â'r gadair olwyn i fyny'r rhiw oherwydd ei bodyn bwrw glaw ac yn fwdlyd iawn."
Mae eisiau bod yn ofalus iawn gyda phethau megis y gwahaniaeth rhwng (y) cartref, gartref, adref. Effaith y Saesneg (nad oes iddi ond yr un gair, 'home') yw hyn, a dyma'r rheswm am nifer o'n problemau heddiw. Cadw'r Gymraeg yn Gymraeg yw'n gorchwyl, nid ei throi'n iaith pidgin. Pe bai gyda ni'r Cymry fwy o grap ar ieithoedd eraill, efallai y byddai pethau'n well- mae'r Almaeneg, er enghraifft, yn gwahaniaethu yn yr un ffordd yn union: (das) Haus, zu Hause, nach Hause.

3. Cyfieithu gwael, mae'n siwr, sy'n rhannol gyfrifol am yr enghraifft nesaf o 12.1.09. Mae'r gwallau gwaethaf i'w gweld o fewn dyfynnodau - ai fyl'na ôdd y boi'n siarad? Mae hynny'n annhebyg gen i.

Cafodd Dexter ei eni yng nghartref y cwpl ym Mro Morgannwg.

Dydd Llun daeth cadarnhad o'r enw.

"Mewn traddodiad a theulu'r Henson, mae Dexter yn cael yr enw canol Lloyd," meddai llefarydd ar ran Charlotte.

4. Ac yn olaf am y tro, enghraifft arbennig iawn oddi ar wefan BBC Cymru'r Byd ar 11.1.09. Eto, fi piau'r pwyslais.

Ar ôl gweithio tuag at e, does dim rhaid golchi poteli, dim rhaid prynu fformiwla, berwi tegell, dim ffwdan dim ond bwydo.

[...]

Roedd profiad Olivia yn hawdd ond roedd problemau gyda Benjamin ond wedi gweithio drwyddo a dyma oedden ni moyn wneud.

"Doedd o ddim yn hawdd gyda Benjamin ond wedi dyfalbarhau a dyw Benjamin ddim yn hoffi'r botel.

"Trio ac os nad ych chi'n hapus a ddim yn gweithio ar ôl dau fis yna chi'n gwybod, chi wedi trio'r gorau i'ch babi."

[...]

 "Does dim digon o help i'r mamau na'r tadau ac mae angen y cyngor iawn gyntaf.

"Siarad gyda'r mamau sydd wedi ac wedi ceisio bron fwydro.

"Mae'n broblem hyder dwi'n credu fod llai o famau ifanc yn bwydo o'r fron ond gyda Charlotte Church yn cefnogi dwi'n gobeithio yn arwain y ffordd.

"Ond i'r mamau i gyd dim ond rhoi cyfle ac mae 'na ddigon o gymorth ar gael ac os nad yw'n gweithio, dim ots ond i chi wedi rhoi siawns."

Mae'n debyg imi mai'r esgus fan hyn unwaith eto fyddai mai "ceisio efelychu'r iaith lafar" oedd y sawl a luniodd y 'trawsgrifiad' yma. Eto, mae'n debycach gen i taw cam-gyfieithu o ddogfen Saesneg yw'r rheswm am yr iaith yma, (yn anffodus, methais â ffeindio'r stori ar y wefan Saesneg). Ond beth bynnag yw'r ateb, a a ddylai iaith fel hyn erioed fod wedi gweld golau dydd, yn enwedig ar wefan o safon megis ein prif ffynhonnell newyddion? Enghraifft eithriadol yw hon, mi wn, ond efallai ei bod hi'n ddefnyddiol oherwydd hynny.

Ai tafodiaith sydd yma neu iaith anghywir? Mae'r ateb, mewn enghreifftiau megis "tuag at e", neu "ond ichi wedi rhoi siawns" yn hollol glir imi, ond wedyn cyfyd cwestiynau eraill: beth yw diben awgrymu fod "tafodiaith" yn iawn ar y tudalen os yw hynny'n awgrymu i rai fod ganddynt yr hawl i ysgrifennu beth bynnag sy'n dod i'w pennau? 

Na. Mae angen rheolau. Ac mae angen golygu. 

5 comments:

  1. Bydda i'n bryfoclyd nawr!

    A gaf i fod yn gyfeillgar iawn wrth awgrymu ichwi olygu eich brawddeg gynta(f) a sawl un arall cyn mynd ar eich ceffyl am Gymraeg gwael a ddiffyg golygu.

    Onid oes dywediad bod angen adar glan i ganu! :-)

    ReplyDelete
  2. Diolch, Cer i Grafu - rydych chi'n iawn am y frawddeg gynta' ac rwy' wedi ei 'glanhau' hi ryw ychydig. Daliais ambell i lithriad arall hefyd. Rhowch wybod os sylwch fod gwallau o hyd.

    Gobeithio nad ydych chi'n cael sw^n fy nghân mor wael â lliw fy mhlu!

    ReplyDelete
  3. Pedant. Mae iaith y we wrthi'n cael ei sefydlu o hyd ym mhob iaith, ond yn arbennig yn y Gymraeg. Wy'n tueddu i hoffi darllen tafodiaeth ar flogiau, gan eu bod yn gofnodion personol, ac o glywed tafodiaeth y blogiwr, cewch glywed ei lais.

    Eto i gyd, rwy'n cytuno taw (sori, mai)cywirdeb piau hi ar wefan safonol, megis un y BBC neu Golwg, Barn, ac yn y blaen.

    Rwy hefyd yn deall pam mae pobl yn trio ysgrifennu dyfyniadau trosiedig mewn iaith tafodiaethol, ond mae'n gas gyda fi ddarllen peth o'r bratiath sy'n cael ei gynhyrchu mewn cyfieithiadau o'r fath.

    Dau beth i ychwanegu at dy sylwadau di:

    1) Beth yw mwydro ar y Fron. Mae'n swnio fel hwyl!

    2) Does dim disgwyl i bobl gyfieithu'n dda os nag 'yn nhw'n deall Saesneg weddol syml. "... meddai Rhiannon Rowlands, un o bencampwyr Wythnos Bwydo o'r Fron." Does bosib taw "cefnogwr" neu "cynrychiolydd" yw'r "champion" yma, yn hytrach nag enillydd rhyw gamp cystadleuol!

    I fod yn gwbl onest, rwyt ti wedi ffindio erthygl hynod o wael, a dylai fod cywilydd ar rywun rhywle o'i herwydd!

    Cadwch eich gwaith da i fyny... ;-)

    ReplyDelete
  4. Diolch fyth bod rhyw rai eraill yn poeni am Gymraeg safonol. Mae priod-ddulliau Saesneg i'w clywed o hyd ac o hyd megis: lle ti'n dod o? lle ti'n mynd i? "fel" yn lle "sut" ac ymlaen ac ymlaen. Y mae'r iaith lafar yn mynd i newid o hyd ac o hyd ac o ardal i ardal ond yn y bôn y mae'n rhaid cael iaith safonol sydd yn ddealladwy i bawb ym mhobman.

    ReplyDelete